Prif Ymgynghorydd

Heneb logo
Posted on
Heneb
Contract
Parhaol
Salary
Cyflog cyfwerth ag amser llawn: £45,534 – £55,258 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad
Location
Wedi’i leoli yng Nghymru yn un o swyddfeydd rhanbarthol Heneb ac yn gweithio’n hybrid, gyda theithio achlysurol ledled Cymru ac i fannau eraill yn ôl anghenion busnes.
Deadline

Am Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru 

Mae Heneb yn sefydliad elusennol sydd wedi ymrwymo i warchod a hyrwyddo treftadaeth archaeolegol gyfoethog Cymru. Mae Heneb yn ddarparwr blaenllaw o wasanaethau archaeolegol a threftadaeth ledled Cymru. Fe’i ffurfiwyd yn 2024 drwy uno’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru, ac mae Heneb yn cyfuno dros bum degawd o arbenigedd mewn archaeoleg a rheoli treftadaeth. Rydym yn cynnig amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau archaeolegol ac ymgynghori i gefnogi datblygu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rydym yn cydweithio’n agos â datblygwyr, tirfeddianwyr a chymunedau i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau, gan ddiogelu a dogfennu amgylchedd hanesyddol cyfoethog Cymru. 

 

Diben y rôl 

Arwain, tyfu a datblygu strategaeth ar gyfer gwasanaeth ymgynghoriaeth Heneb, gan ddarparu dealltwriaeth lefel uchel o’r gwaith technegol, masnachol a strategol sydd ei angen ar gyfer gwaith ymgynghori archaeolegol a threftadaeth. 

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu cynnig Heneb ym maes ynni adnewyddadwy a sectorau datblygu mawr eraill, gan adeiladu portffolio ymgynghoriaeth cryf a chynaliadwy, gofalu am perthnasoedd allweddol â chleientiaid, a sefydlu’r systemau, safonau a 

galluedd tîm sydd eu hangen ar gyfer twf hirdymor. 

Bydd y rôl hon yn cyfuno uwch-arweinyddiaeth o ran datblygu gwasanaethau, sicrhau ansawdd ac adeiladu tîm â chyflawni personol dethol ar gomisiynau ymgynghori cymhleth. 

 

Cyd-destun 

Mae gwaith ymgynghori Heneb wedi tyfu’n gyflym ers ei ffurfio ym mis Ebrill 2024, yn enwedig mewn perthynas â chynlluniau ynni adnewyddadwy a seilwaith ehangach ledled Cymru. Fel darparwr gwasanaethau, mae Heneb mewn sefyllfa dda i nodi ac ymateb i gyfleoedd pellach yn y maes hwn, ac i ddatblygu ei wasanaethau ymgynghori ledled Cymru yn y blynyddoedd i ddod. 

  

Diben y swydd hon yw darparu arweinyddiaeth benodol ym maes datblygu busnes, cefnogi twf pellach, a chryfhau galluoedd mewnol, sicrhau ansawdd a chydlynu. Yr uchelgais yw datblygu adain ymgynghori benodol o fewn tîm Gwasanaethau Maes ehangach Heneb, gyda’r galluoedd, y systemau a’r ffocws masnachol sydd eu hangen i ddarparu cyngor o ansawdd uchel, adeiladu perthnasoedd hirdymor â chleientiaid, a chefnogi twf sefydliadol cynaliadwy. 

 

Cyfrifoldebau Allweddol 

 Arweinyddiaeth Strategol a Datblygu Gwasanaethau 

  • Arwain datblygiad a thwf gwasanaeth ymgynghoriaeth Heneb.
  • Gweithio gyda’r Pennaeth Archaeoleg, y Rheolwr Datblygu Busnes a’r uwch-dîm rheoli i ddiffinio a chyflawni strategaeth ymgynghori glir.
  • Datblygu portffolio ymgynghori Heneb mewn meysydd megis ynni adnewyddadwy, seilwaith, tai, trafnidiaeth, mwynau, gwastraff a sectorau eraill lle gall ymgynghoriaeth archaeolegol gyflawni gwerth strategol a masnachol.
  • Deall ysgogwyr polisi a’r broses gwneud penderfyniadau ar gyfer seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol.
  • Bod yn gyfarwydd â chanllawiau penodol megis polisi ynni trosfwaol y DU a dogfennau cyngor Cadw.
  • Nodi cyfleoedd i ehangu cynnig ymgynghori Heneb, cryfhau presenoldeb yn y farchnad, a datblygu llinellau gwasanaeth newydd neu estynedig o astudiaethau dichonoldeb cyn cynllunio hyd at dystiolaeth arbenigol mewn ymchwiliad cyhoeddus.
  • Sefydlu’r strwythurau, llifoedd gwaith, safonau a mecanweithiau adrodd sydd eu hangen i gefnogi swyddogaeth ymgynghori uchel ei pherfformiad. 

 

Cyflawni Ymgynghoriaeth 

  • Arwain a goruchwylio comisiynau ymgynghori archaeolegol a threftadaeth o’r ymholiad cychwynnol a chostio hyd at gwblhau.
  • Deall yr angen am ddull fesul cam a’r potensial i ddatblygu ffrydiau gwaith ychwanegol a gwerth ychwanegol i’r cleient.
  • Paratoi ac adolygu cynigion ffioedd, cwmpasau gwaith, gwybodaeth rhaglenni a chyflwyniadau ymgynghori.
  • Darparu goruchwyliaeth uwch o allbynnau ymgynghori gan gynnwys gwerthuso opsiynau, diwydrwydd dyladwy, asesiadau lefel uchel, asesiadau desg, asesiadau effaith treftadaeth, mewnbynnau EIA, adroddiadau cynghori, cynllunio cadwraeth a chyflawniadau technegol eraill yn ôl yr angen.
  • Gweithredu fel arweinydd technegol ar brosiectau cymhleth neu uchel eu proffil.
  • Sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni yn unol ag amserlenni, cyllidebau, safonau ansawdd a disgwyliadau cleientiaid y cytunwyd arnynt.
  • Goruchwylio perfformiad ariannol prosiectau, gan gynnwys incwm, elw, cynllunio adnoddau a chymorth anfonebu lle bo’n berthnasol. 

 

 

Datblygu Cleientiaid a Phortffolio 

  • Adnabod cleientiaid a chysylltiadau cleientiaid.
  • Adeiladu, rheoli a datblygu portffolio ymgynghori cryf ar gyfer Heneb.
  • Datblygu a chynnal perthnasoedd dibynadwy â chleientiaid presennol a gleientiaid arfaethedig, ymgynghorwyr, datblygwyr a sefydliadau partner.
  • Meithrin cyfrifon cleientiaid allweddol a chefnogi busnes ailadroddus drwy gyngor o ansawdd uchel, ymatebolrwydd ac ymgysylltu strategol.
  • Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Datblygu Busnes i gryfhau safle yn y farchnad, troi cyfleoedd yn waith, ac alinio gweithgarwch ymgynghori ag amcanion twf sefydliadol ehangach.
  • Cefnogi trosglwyddo perthnasoedd ymgynghori cam cynnar i gamau diweddarach o werthuso, cloddio, lliniaru a gwasanaethau cysylltiedig lle bo’n briodol. 

 

Arweinyddiaeth Tîm a Chapasiti Mewnol 

  • Adeiladu a datblygu tîm ymgynghori o amgylch y rôl dros amser, mewn partneriaeth â’r Pennaeth Archaeoleg, yr uwch-dîm rheoli a’r Rheolwr Datblygu Busnes.
  • Darparu rheolaeth linell, mentora a chymorth proffesiynol i staff sy’n gweithio mewn rolau ymgynghori neu’n symud i mewn iddynt.
  • Helpu i ddatblygu arbenigedd mewnol mewn arferion ymgynghori, yn enwedig ar draws EIA, gwaith cynghori, cydlynu prosiectau, systemau ansawdd a defnydd effeithiol o GIS o fewn llifoedd gwaith ymgynghori.
  • Cefnogi cynllunio’r gweithlu, recriwtio, datblygu galluedd a chynllunio olyniaeth yn y maes ymgynghori.
  • Hyrwyddo gweithio cydweithredol ar draws Heneb i sicrhau bod gweithgarwch ymgynghori wedi’i integreiddio’n dda â’r gwasanaeth archaeoleg ehangach. 

 

Sicrhau Ansawdd a Llywodraethu 

  • Arwain datblygiad a chynnal systemau sicrhau ansawdd cryf ar gyfer gwaith ymgynghori, gan anelu yn y pen draw at safon ISO 9001.
  • Sicrhau bod pob allbwn ymgynghori yn gryf, wedi’i gyflwyno’n dda ac yn briodol i ofynion cleientiaid, cynllunio a rheoleiddio.
  • Cynnal cofnodion prosiect effeithiol, rheolaeth ffeiliau ac arferion gweithio cyson ar draws y swyddogaeth ymgynghori.
  • Cyfrannu at reoli risg, gwelliant parhaus a diwylliant o safonau proffesiynol uchel.
  • Sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â gofynion proffesiynol, sefydliadol a chyfreithiol perthnasol. 

 

Cyfraniad at Uwch Reoli 

  • Cyfrannu fel aelod o uwch-dîm rheoli’r Gwasanaethau Maes, gan gefnogi arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol ehangach Heneb.
  • Cefnogi cynllunio strategol, datblygiad sefydliadol a gwella gwasanaethau.
  • Hyrwyddo gwerthoedd Heneb fel elusen sy’n cyflawni mantais cyhoeddus, gan gryfhau gwydnwch a chynaliadwyedd masnachol hefyd. 


Cynrychioli Heneb yn allanol gyda hygrededd ac awdurdod mewn lleoliadau proffesiynol, technegol, masnachol a rhanddeiliaid. 

 

Pwrpas y Rôl 

  •  Rôl arweinyddiaeth gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu a thyfu swyddogaeth ymgynghori Heneb. 
  • Cyfrifoldeb uniongyrchol dros adeiladu portffolio ymgynghori a chefnogi incwm, elw a 

    pherfformiad y biblinell waith. 

  • Cyfrifoldeb dros adeiladu galluoedd tîm a chefnogi recriwtio a datblygu gwasanaethau yn y dyfodol.
  • Awdurdod technegol ar draws gwaith ymgynghori, gan gynnwys adolygu a chymeradwyo allbynnau priodol.
  • Rôl sylweddol sydd yn ymdrin â chleientiaid, gyda llawer o ryngweithio tu mewn a tu allan i’r cwmni. 

 

Perthnasoedd Gwaith Allweddol 

 Pennaeth Archaeoleg.

  • Rheolwr Datblygu Busnes.
  • Uwch-dîm rheoli’r Gwasanaethau Maes.
  • Staff ymgynghori yn y dyfodol a thimau archaeoleg ehangach.
  • Cleientiaid, datblygwyr, ymgynghorwyr a sefydliadau partner. 

Rhanddeiliaid cynllunio, seilwaith a threftadaeth fel y bo’n briodol. 

 

Mae’r Disgrifiad Swydd hwn yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol. Nid yw’n atal newid na datblygiad a allai fod yn ofynnol yn y dyfodol. 

 

Manyldeb y Person 

 Cymwysterau a Statws Proffesiynol 

  • Gradd mewn archaeoleg neu ddisgyblaeth gysylltiedig agos, neu brofiad ymarferol perthnasol.
  • MCIfA.
  • Hygrededd proffesiynol llawn i weithredu fel cynrychiolydd Heneb mewn lleoliadau technegol a masnachol. 

 

Profiad 

  • Profiad sylweddol mewn ymgynghori archaeolegol a threftadaeth.
  • Profiad o arwain prosiectau ymgynghori o’r cam costio a chynnig hyd at gyflawni a chwblhau.
  • Profiad cryf o baratoi, adolygu a sicrhau ansawdd allbynnau ymgynghori.
  • Profiad o reoli cleientiaid, datblygu portffolio ac adeiladu perthnasoedd hirdymor.
  • Profiad o arwain neu gyfrannu at dwf ymgynghori a datblygu gwasanaethau.
  • Profiad o reoli agweddau ariannol ar brosiectau, gan gynnwys cyllidebau, incwm, elw neu biblinell waith.
  • Profiad o fentora, cefnogi neu reoli staff. 

Profiad o weithio’n gydweithredol ar draws swyddogaethau technegol, gweithredol a masnachol. • Profiad o weithio’n amlddisgyblaethol a defnyddio systemau rheoli dogfennau SharePoint allanol. 

 

Gwybodaeth a Sgiliau Technegol 

  • Dealltwriaeth gadarn o ymgynghori archaeolegol, treftadaeth adeiledig a threftadaeth mewn cyddestunau datblygu.
  • Dealltwriaeth gadarn o’r fframwaith deddfwriaethol, polisi a chanllawiau cenedlaethol ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol.
  • Dealltwriaeth gadarn o brosesau cynllunio, cynghori a chydsynio sy’n berthnasol i waith ymgynghori.
  • Gwybodaeth fanwl am ddogfennau canllaw asiantaethau cenedlaethol sy’n berthnasol i ymgynghori, ac am godau a safonau proffesiynol.
  • Y gallu i gwmpasu, costio, rheoli ac adolygu comisiynau ymgynghori i safon broffesiynol uchel.
  • Y gallu i drafod cyfraddau a dulliau arloesol ar gyfer cyfleoedd busnes amrywiol.
  • Y gallu i weithredu fel awdurdod technegol a darparu goruchwyliaeth a chymeradwyaeth gadarn.
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau, golygu a chyfathrebu o safon uchel.
  • Sgiliau trefnu cryf, gyda’r gallu i reoli blaenoriaethau sy’n cystadlu a rhaglenni hirdymor.
  • Y gallu i ddatblygu systemau, safonau ac arferion gweithio sy’n cefnogi ansawdd cyson.
  • Dealltwriaeth dda o sut y gall GIS a data cysylltiedig gefnogi cyflawni ymgynghori a gwneud penderfyniadau. 

 

Arweinyddiaeth a Rhinweddau Personol 

  • Yn gallu gweithredu ar lefel uwch-reoli gyda barn broffesiynol gadarn.
  • Yn fasnachol ymwybodol tra’n ymrwymedig i fudd cyhoeddus a gwerthoedd sefydliadol.
  • Yn hyderus, yn gredadwy ac yn gydweithredol mewn perthnasoedd mewnol ac allanol.
  • Yn gallu meithrin ymddiriedaeth, ysgogi eraill a chefnogi datblygiad proffesiynol.
  • Meddyliwr strategol gyda’r gallu i droi cyfleoedd yn dwf gwasanaeth ymarferol. 

 

Dymunol Iawn 

Profiad sectorol ac arbenigol 

  • Profiad o waith ymgynghori yn y sector ynni adnewyddadwy, gan gynnwys un neu fwy o’r meysydd canlynol: gwynt, solar, storio batris, grid, morol, neu seilwaith cysylltiedig.
  • Profiad o waith treftadaeth ddiwylliannol sy’n gysylltiedig ag EIA.
  • Profiad mewn ymgynghori ar dreftadaeth adeiledig a chynllunio rheoli cadwraeth.
  • Profiad mewn rheoli henebion a meysydd arbenigol cysylltiedig.
  • Profiad o adeiladu neu ail-lunio tîm neu wasanaeth ymgynghori.
  • Profiad mewn elusen, sefydliad budd cyhoeddus neu sefydliad sy’n cael ei arwain gan werthoedd.
  • Profiad o weithio ledled Cymru neu yng nghyd-destun cynllunio a datblygu Cymru. 

 

Rhwydweithiau Proffesiynol ac Ymgysylltu â’r Sector 

  • Aelodaeth neu ardystiad IEMA (ISEP). 

Rhwydwaith proffesiynol ym maes ymgynghori treftadaeth a threftadaeth adeiledig. 

  • Cysylltiadau ar draws y sectorau treftadaeth, cynllunio, datblygu neu seilwaith ehangach.
  • Cyfranogiad mewn fforymau proffesiynol perthnasol, paneli neu rwydweithiau sector.
  • Cysylltiadau archaeolegol lleol neu ranbarthol yng Nghymru. 

 

Dymuniadau eraill 

  • Cymwysterau ôl-raddedig mewn archaeoleg, treftadaeth, treftadaeth adeiledig, cynllunio neu faes cysylltiedig.
  • Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Profiad o gyhoeddi, ymchwil neu ymgysylltu â’r cyhoedd. 

 

Cymwyseddau Allweddol

  • Cyfathrebu 

Rhaid i ddeiliaid swydd allu darparu cyngor llafar ac ysgrifenedig clir a chryno, gan ddelio’n hyderus ac yn gwrtais â phobl ar bob lefel. Bydd angen i ddeiliaid y swydd fod yn gyson wrth wneud penderfyniadau ac yn gallu cyfiawnhau sylwadau. 

 

  • Datrys Problemau 

Rhaid i ddeiliaid y swydd allu arfarnu gwybodaeth yn gyflym, nodi materion allweddol a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth; gweithio’n drefnus ac yn gyson gyda sylw i fanylion a heb lawer o oruchwyliaeth. Rhaid i ddeiliaid y swydd allu cynnig strategaethau priodol a bod yn agored i syniadau a thechnegau newydd. 

 

  • Cymhwyso Arbenigedd 

Dylai deiliaid y swydd gymhwyso ystod o sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd; cymryd camau i ddiweddaru, datblygu ac ehangu gwybodaeth a sgiliau; cymhwyso barn broffesiynol gadarn; a gwybod pryd i gael cyngor ac arbenigedd arbenigol. 

 

  • Cyflawni 

Dylai deiliaid y swydd gefnogi darparu gwasanaeth o ansawdd cyson a cheisio sicrhau’r canlyniadau gorau posibl; bydd angen y gallu i weithio dan sawl pwysau, cynllunio a rheoli eu hamser eu hunain i fodloni terfynau amser; helpu i gynllunio ymlaen llaw a diffinio blaenoriaethau; adnabod problemau; a monitro ac adolygu eu perfformiad eu hunain. 

 

  • Gwelliant Parhaus 

Dylai deiliaid y swydd ymateb yn bositif ac yn hyblyg i newid, gwneud awgrymiadau i wella arferion gwaith, dysgu o gamgymeriadau, rhannu arferion da, ac ystyried potensial technoleg i wella gwaith. 

 

  • Sgiliau Personol 

Dylai deiliaid swydd fod yn hyderus, yn bwyllog o dan bwysau, yn frwdfrydig ac yn ddibynadwy. 

 

 

Gwybodaeth Ychwanegol 

Mae’r rôl hon yn gofyn am deithio cyfnodol o fewn y rhanbarth ar gyfer cyfarfodydd ac ymweliadau safle, gyda theithio achlysurol i rannau eraill o Gymru. Gan y bydd ymweliadau yn aml â safleoedd adeiladu gweithredol neu safleoedd mewn lleoliadau gwledig heb gludiant cyhoeddus hawdd, bydd angen i ddeiliad y swydd allu gyrru a bod yn gyfforddus yn cerdded ar dir anwastad. 

 

Buddion Ychwanegol: 

  • Gwyliau Blynyddol: 38 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (gan gynnwys gwyliau banc).
  • Cyflog: Cystadleuol, yn seiliedig ar allu a phrofiad.
  • Cynllun Pensiwn: Cynllun pensiwn wedi’i gynnwys.
  • Aelodaeth CIfA: Ffioedd aelodaeth wedi’u talu’n llawn.
  • Llety a Chynhaliaeth: Darperir pan fyddwch yn gweithio i ffwrdd o’r cartref.
  • Polisi Milltiroedd- ar gyfer yr holl waith a wneir i ffwrdd o’ch swyddfa sylfaen.
  • Archaeoleg Gymunedol: gwaith ar ein prosiectau archaeoleg gymunedol eang eu cwmpas.
  • Hyfforddiant a Datblygiad: Mynediad at gyllidebau a lwfansau hyfforddi penodol.
  • Ymchwil ac Allgymorth: Mynediad at ddyraniad penodol ar gyfer ymchwil ac allgymorth.
  • Gweithio Hyblyg: Rydym yn gweithredu polisi Oriau Hyblyg ac Amser i Ffwrdd yn Lle (TOIL). 

 

Sut i Wneud Cais 

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rôl at HR@heneb.org.uk erbyn 10am 1af Medi 2026. 

 Mae Heneb wedi ymrwymo i greu amgylchedd amrywiol ac mae’n falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal. Bydd pob ymgeisydd cymwys yn cael ei ystyried ar gyfer cyflogaeth heb ystyried hil, lliw, crefydd, rhyw, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, aelodaeth undeb llafur, anabledd nac oedran. 

Rydym yn annog ceisiadau gan bobl ag amrywiaeth eang o gefndiroedd, profiadau a sgiliau i ymuno â’n timau. Rydym enwedig yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndir mwyafrif byd-eang a/neu bobl anabl, gan eu bod wedi’u tangynrychioli yn ein sefydliad. 

Rhaid i ymgeiswyr fod â hawl i weithio yn y DU. Dim asiantaethau. 

Os nad yw eich sgiliau’n cyfateb yn llawn i’n meini prawf ond eich bod yn dal i deimlo eich bod yn addas ar gyfer y rôl hon, cysylltwch am drafodaeth anffurfiol â Luke Jenkins yn Luke.Jenkins@Heneb.org.uk