Uwch Swyddog Cynllunio Amgylchedd Hanesyddol

Posted on
Cadw
Salary
SEO - £49,340 - £58,420
Location
Parhaol
Deadline

Mae Cadw yn dymuno penodi Uwch Swyddog Cynllunio Amgylchedd Hanesyddol. Dyma gyfle cyffrous i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o warchod a diogelu amgylchedd hanesyddol cyfoethog Cymru drwy ddarparu cyngor arbenigol ar gynigion cynllunio sy'n effeithio ar henebion cofrestredig, a thirweddau hanesyddol ledled Cymru.

 

Lleoliad

Cymru Gyfan

Gall y rôl hon gynnwys teithio ledled Cymru i ymweld â henebion cofrestredig a’u harchwilio, rhai ohonynt mewn lleoliadau anghysbell nad oes modd mynd iddynt ar drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae trwydded yrru lawn y DU yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Gofynion

I ymuno â ni, ydych chi’n meddu ar y sgiliau canlynol:

  1. Cymwysterau academaidd i lefel gradd neu uwch mewn archaeoleg, rheoli treftadaeth neu bwnc amgylchedd hanesyddol perthnasol arall. Bydd angen darparu tystiolaeth yn y cam cynefino neu cyn hynny.
  2. Gwybodaeth weithredol dda o archaeoleg a chefndir hanesyddol safleoedd a henebion o bob cyfnod o'r cyfnod cynharaf. Mae gwybodaeth benodol am henebion, tirwedd hanesyddol ac archaeoleg Cymru yn ddymunol.
  3. Profiad helaeth o ddarparu cyngor cynllunio archaeolegol, rheoli datblygu a/neu reoli treftadaeth mewn perthynas â henebion maes, safleoedd archaeolegol a thirweddau hanesyddol sy'n gweithredu ar lefel sy'n cyfateb i lefel MCIfA Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA).
  4. Profiad o fynychu ymchwiliadau, gwrandawiadau ac apeliadau cynllunio a darparu tystiolaeth iddynt.

 

Cyflog

Bydd y cyflog cychwynnol ar isafswm y raddfa gyflog.

Hefyd

  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • 31 diwrnod o wyliau blynyddol
  • Cyfleoedd hyfforddi a datblygu

Dyddiad cau: 16:00pm ar 02/12/2026

Cais Yma: https://cais.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-1/brand-7/candidate/so/pm/1/pl/3/opp/4355-Senior-Historic-Environment-Planning-Officer/en-GB