Swyddog Prosiect - Rhwydwaith Gwirfoddoli Archaeoleg a Threftadaeth Genedlaethol a ariennir gan CGGC

Heneb logo
Posted on
Heneb
Contract
Math o gontract: Cyfnod Penodol (18 mis)
Salary
£32,000 y flwyddyn pro rata (3 diwrnod yr wythnos - £19,200 gwir gyflog)
Location
Unrhyw un o swyddfeydd Heneb. Gweithio hybrid/hyblyg drwy drefniant. (Efallai y bydd angen teithio ledled Cymru.)
Benefits
See job details, below.
Deadline

Gwybodaeth am Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru

Mae Heneb yn sefydliad elusennol sydd wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo treftadaeth archaeolegol gyfoethog Cymru. Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i wirfoddoli drwy gydweithio a chydweithredu yn y sector, rydym wedi cael grant gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) i ddatblygu rhwydwaith treftadaeth a gwirfoddoli i Gymru. 

Rydym yn chwilio am unigolyn proffesiynol, brwdfrydig sy’n gallu cymell ei hun ac sydd â phrofiad o reoli prosiectau, ymgysylltu â rhanddeiliaid ac allgymorth yng Nghymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r prosiect 18 mis hwn. 


Pwrpas y Swydd

Bydd Swyddog Prosiect CGGC yn gyfrifol am nodi rhanddeiliaid allweddol Heneb o gymdeithasau hanes, sefydliadau treftadaeth a grwpiau archaeoleg cymunedol; bydd yn gwneud gwaith ymgysylltu wedi'i dargedu ac yn datblygu perthynas barhaol rhwng Heneb a'r sector ehangach. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at ddatblygu rhwydwaith gwirfoddoli cenedlaethol ar gyfer treftadaeth ac archaeoleg. Mae'r rôl hon yn cynnwys canfod cyfleoedd newydd, datblygu partneriaethau, a chynyddu ymgysylltiad cyffredinol â Heneb. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag Arweinydd Cenedlaethol Allgymorth Heneb a'r uwch dîm rheoli i greu a gweithredu strategaethau sy'n cyd-fynd â chanlyniadau grant CGGC Heneb.


Y Prif Gyfrifoldebau

Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

  • Meithrin a chynnal perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cymdeithasau hanes, sefydliadau treftadaeth a grwpiau archaeoleg cymunedol.
  • Cynrychioli Heneb mewn digwyddiadau, cynadleddau a chyfarfodydd y diwydiant i hyrwyddo prosiect CGGC.
  • Creu cynnwys diddorol ar gyfer y cyfryngau i hyrwyddo gwaith Heneb a phrosiect CGGC. 

 

Strategaeth, Cynllunio a Chyflawni

  • Gweithio gydag uwch reolwyr i ddatblygu methodoleg y cytunwyd arni.
  • Gweithredu fframwaith rheoli prosiect cadarn a sefydlu cerrig milltir allweddol mewn cytundeb â'r uwch reolwyr.
  • Nodi heriau a chanfod cyfleoedd yn gynnar yn y broses a datblygu strategaethau lliniaru.
  • Cyflawni'r prosiect yn brydlon, i safon uchel, gan gyflawni nodau'r prosiect fel y cytunwyd arnynt gyda CGGC a'r uwch reolwyr. 

 

Adrodd a Gweinyddu

  • Cadw cofnodion cywir o weithgareddau prosiect CGGC.
  • Darparu diweddariadau anffurfiol rheolaidd ac adroddiadau ffurfiol ar gynnydd, heriau a chanlyniadau i'r Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Allgymorth, y Prif Weithredwr ac i CGGC.
  • Sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth a safonau perthnasol y diwydiant yn holl weithgareddau'r prosiect, gan gynnwys cydymffurfio â GDPR, Cod Ymarfer Gorau Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr a chanllawiau CGGC. 

 

Manyleb y Person

Cymwysterau a Phrofiad Hanfodol:

  • Profiad amlwg o gyflawni prosiectau, yn y sector treftadaeth, archaeoleg neu elusennol yn ddelfrydol.
  • Hanes blaenorol amlwg o ymgysylltu'n llwyddiannus â rhanddeiliaid.
  • Dealltwriaeth gadarn o'r sector archaeoleg a'i rôl o ran meithrin iechyd a lles.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â’r gallu i ymgysylltu’n effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid ar-lein ac wyneb yn wyneb.
  • Sgiliau rheoli amser caboledig, gyda’r gallu i reoli rhyngddibyniaethau prosiect cymhleth.

 

Cymwysterau Dymunol:

  • Profiad o weithio mewn sefydliad treftadaeth neu archaeolegol.
  • Profiad o reoli gwirfoddolwyr.
  • Gradd berthnasol mewn treftadaeth, archaeoleg neu faes cysylltiedig.
  • Ardystiad Prince2 – Rheoli Prosiectau.
  • Gallu siarad Cymraeg.


Cymwyseddau Allweddol:

  • Cael ei sbarduno gan ganlyniadau gyda ffocws ar gyflawni nodau.
  • Sgiliau meithrin perthynas a rhwydweithio cryf.
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm.
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser ardderchog.
  • Gwybodaeth am Gymru a'i chyd-destun gwirfoddoli.


Sut mae gwneud Cais

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol sy'n amlinellu pa mor addas ydych chi ar gyfer y swydd at HR@heneb.org.uk erbyn 31 Hydref 2025.

Mae Heneb wedi ymrwymo i greu amgylchedd amrywiol ac mae’n falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal. Bydd pob ymgeisydd cymwys yn cael ei ystyried ar gyfer cyflogaeth heb ystyried hil, lliw, crefydd, rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad cenedlaethol, geneteg, anabledd, oedran neu statws cyn-filwr.  Mae Heneb hefyd wedi ymrwymo i gydymffurfio â'r holl arferion cyflogaeth deg sy'n berthnasol i ddinasyddiaeth a statws mewnfudo. 

Os nad yw eich sgiliau'n cyfateb yn llawn i'n meini prawf ond eich bod yn dal i deimlo bod eich sgiliau’n cyd-fynd yn dda â’r rôl hon, cysylltwch â ni am drafodaeth anffurfiol gyda'r Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Allgymorth sef Zoe Arthurs ar 01938 532772.

Featured job
Off