Cyd-destun
Mae Heneb yn sefydliad elusennol sydd wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo treftadaeth archaeolegol gyfoethog Cymru. Heneb yw prif ddarparwr gwasanaethau archaeolegol a threftadaeth yng Nghymru. Ffurfiwyd Heneb yn 2024 drwy uno pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, ac mae'n cyfuno dros bum degawd o arbenigedd ym maes archaeoleg a rheoli treftadaeth. Rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau archaeolegol ac ymgynghori i gefnogi datblygiadau yn y sector cyhoeddus yn ogystal â’r sector preifat. Rydym yn cydweithio’n agos gyda datblygwyr, perchnogion tir a chymunedau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau, gan ddiogelu a chofnodi amgylchedd hanesyddol cyfoethog Cymru ar yr un pryd.
Pwrpas y Swydd / Crynodeb o’r Swydd
Bydd y Swyddog Prosiect yn helpu i ddarparu gwasanaethau archaeolegol Heneb. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gydlynu a chyflawni prosiectau archaeolegol o wahanol faint a chymhlethdod, gan gynnwys goruchwylio timau o archaeolegwyr lle bo angen, ac am sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n ddiogel, yn effeithlon ac i safon broffesiynol uchel. Mae’r rôl yn cyfuno cyfrifoldeb dros gyflawni prosiectau â chyfraniad uniongyrchol at waith maes, dadansoddi, adrodd, a lledaenu gwybodaeth ar ôl y gwaith maes.
Llinell Adrodd a Pherthnasoedd Allweddol
Yn atebol i’r: Rheolwr Prosiect perthnasol neu reolwr dynodedig arall.
Yn gyfrifol am: Oruchwylio Archaeolegwyr a staff eraill y prosiect o ddydd i ddydd wrth arwain prosiect.
Yn gweithio’n agos gyda’r: Rheolwyr Prosiect, cleientiaid, contractwyr, ymgynghorwyr, perchnogion tir, archaeolegwyr curadurol a rhanddeiliaid treftadaeth eraill.
Y Prif Gyfrifoldebau
Cyflawni a Chydlynu Prosiectau
- Cydlynu a chyflawni prosiectau archaeolegol o wahanol faint a chymhlethdod, gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â’r cwmpas, y rhaglen a’r gyllideb a gytunwyd.
- Paratoi a chyfrannu at ddyluniadau prosiectau, asesiadau risg, datganiadau dull a dogfennau eraill ar gyfer prosiectau, gan weithio gyda Rheolwr y Prosiect pan fydd hynny’n briodol.
- Gwneud a goruchwylio gwaith maes archaeolegol, gan gynnwys gwaith cloddio, gwerthusiadau, briffiau gwylio, gwaith arolygu a chofnodi adeiladau.
- Paratoi a chyfrannu at asesiadau desg a dogfennau technegol eraill.
- Ymgymryd â dadansoddi, adrodd a chyhoeddi ar ôl gwaith maes i safon broffesiynol, a chydlynu’r gwaith hwnnw.
- Sicrhau bod cofnodion prosiectau, data digidol, canfyddiadau ac archifau yn cael eu cadw, eu paratoi a’u trosglwyddo neu eu hadneuo’n briodol yn unol â gweithdrefnau Heneb a safonau proffesiynol perthnasol.
- Lledaenu canlyniadau prosiectau drwy gyhoeddiadau, sgyrsiau a gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd lle bo hynny’n briodol.
- Bod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ar y safle, gan sicrhau bod rheolaethau risg addas a systemau gwaith diogel ar waith, yn cael eu cyfleu a’u dilyn.
- Cysylltu â chleientiaid, contractwyr, archaeolegwyr curadurol a rhanddeiliaid eraill, gan gynrychioli Heneb yn broffesiynol.
Sicrhau Ansawdd, Adrodd a Chydymffurfedd
- Sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gyflawni yn unol â pholisi iechyd a diogelwch Heneb, deddfwriaeth berthnasol, gofynion y prosiect a safonau proffesiynol.
- Cynnal safonau uchel o ran adrodd, gan gynnwys drafftio, adolygu a golygu adroddiadau archaeolegol a chrynodebau gwaith maes.
- Sicrhau bod allbynnau’r prosiect yn dechnegol gadarn, yn cael eu cyflwyno’n dda, ac yn briodol i ofynion y cleient yn ogystal â gofynion cynllunio a rheoleiddio.
- Cyfrannu at welliant parhaus o ran cyflawni prosiectau, systemau ansawdd ac arferion gwaith.
Datblygu Cleientiaid, Rhanddeiliaid a Busnes
O fewn cymhwysedd ac awdurdod dirprwyedig deiliad y swydd:
- Rhoi cyngor proffesiynol i gleientiaid, contractwyr, ymgynghorwyr a rhanddeiliaid ynghylch gofynion, methodolegau a chanlyniadau prosiectau.
- Cynrychioli Heneb mewn cyfarfodydd â chleientiaid, ymweliadau â safleoedd, a digwyddiadau proffesiynol yn ôl yr angen.
- Cefnogi datblygiad busnes drwy gyfrannu at dendrau a chynigion, meithrin cysylltiadau cadarnhaol â chleientiaid, a helpu i drosi cyfleoedd yn waith a gyflawnir.
- Helpu i hyrwyddo gwaith Heneb yn ehangach, a lledaenu canlyniadau prosiectau’n gyhoeddus pan fydd hynny’n briodol.
Cymorth gweithredol
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill sy’n rhesymol gyson â phwrpas a graddfa’r swydd, fel sy’n ofynnol gan Heneb.
Cymwyseddau Craidd
- Arbenigedd proffesiynol: Defnyddio gwybodaeth archaeolegol briodol, barn broffesiynol a sgiliau technegol ym mhob agwedd ar waith penodedig.
- Cyfrifoldeb a blaengaredd: Cymryd cyfrifoldeb dros waith dirprwyedig, trefnu blaenoriaethau’n effeithiol, dod o hyd i atebion ymarferol, a gofyn am arweiniad pan fydd materion y tu hwnt i gymhwysedd neu awdurdod deiliad y swydd.
- Cyfathrebu: Rhoi cyfarwyddiadau clir ar lafar ac ar bapur, cynhyrchu gwaith ysgrifenedig cryno a chywir, a chyfathrebu’n hyderus ac yn ystyriol â chydweithwyr, cleientiaid, contractwyr a rhanddeiliaid.
- Datrys problemau: Cymathu gwybodaeth, nodi materion allweddol, gwerthuso risgiau a manteision, gwneud cysylltiadau rhwng materion cysylltiedig a chynnig atebion cymesur ac ymarferol.
- Gwaith tîm a goruchwylio: Cydweithio, cefnogi cydweithwyr, cydlynu timau prosiect yn effeithiol, deall effaith gweithredoedd ar eraill, ac ymateb yn adeiladol i her broffesiynol.
Cydraddoldeb, Hygyrchedd a Budd Cyhoeddus
Mae deiliad y swydd yn cefnogi amcanion budd cyhoeddus Heneb ac yn cyfrannu at wasanaethau archaeoleg a threftadaeth hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy ledled Cymru. Bydd deiliad y swydd, fel rhan o'i weithgarwch gweithredol, yn ystyried cydraddoldeb, y Gymraeg, budd i’r gymuned a gofynion hygyrchedd.
Mae’r Disgrifiad Swydd yma'n adlewyrchu’r sefyllfa bresennol. Nid yw’n atal newid na datblygiad a allai fod yn ofynnol yn y dyfodol.
Sut i Gymhwyso
Anfonwch eich CV a llythyr clawr yn nodi eich addasrwydd ar gyfer y rôl at HR@heneb.org.uk erbyn 9am, 11 Rhagfyr 2026.
Mae Heneb yn ymroddedig i greu amgylchedd amrywiol ac yn falch o fod yn gyflogwr sy'n cynnig cyfleoedd cyfartal. Bydd pob ymgeisydd cymwys yn cael ystyriaeth ar gyfer cyflogaeth heb ystyriaeth i hil, lliw, crefydd, rhyw, hunaniaeth rhyw neu fynegiant, rhywioldeb, statws priodasol, aelodaeth undeb masnach, anabledd neu oedran.
Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd, profiadau a sgiliau amrywiol i ymuno â'n timoedd. Croesewir yn arbennig geisiadau gan rai sy'n dod o gefndir mwyafrif byd-eang ac/neu rai sy'n anabl, gan eu bod wedi'u tan-gyflwyno o fewn ein sefydliad.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael awdurdodi gwaith yn y DU. Dim asiantaethau.
